1 Samuel 5

Yr Arch yng ngwlad y Philistiaid

1Wedi iddyn nhw gipio Arch Duw, dyma'r Philistiaid yn mynd â hi o Ebeneser i Ashdod. 2Aethon nhw â hi i deml eu duw Dagon, a a'i gosod hi wrth ochr y ddelw o Dagon. 3Bore trannoeth, pan gododd pobl Ashdod, roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb o flaen Arch Duw. Felly dyma nhw yn ei godi a'i osod yn ôl yn ei le. 4Yna pan godon nhw'n gynnar y bore wedyn roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb eto o flaen Arch Duw. Roedd ei ben a'i ddwy law wedi eu torri i ffwrdd, ac yn gorwedd wrth y drws. Dim ond corff Dagon oedd yn un darn. 5(Dyna pam mae offeiriaid Dagon hyd heddiw, a phawb arall sy'n dod i deml Dagon, yn osgoi camu ar stepen drws y deml yn Ashdod.)

6Cosbodd yr Arglwydd bobl Ashdod yn drwm, ac achosi hafoc yno. Cafodd pobl Ashdod, a'r ardal o'i chwmpas, eu taro'n wael gyda chwyddau cas
5:6 chwyddau cas Mae'n bosib mai'r Pla Du oedd hwn.
drostyn nhw.
7Pan sylweddolodd pobl Ashdod beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n dweud, “Ddylai Arch Duw Israel ddim aros yma gyda ni. Mae e wedi'n taro ni a Dagon ein duw ni!”

8Felly dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd, a gofyn, “Be wnawn ni ag Arch Duw Israel?” A dyma nhw'n ateb, “Ei symud hi i Gath
5:8 Gath Tua 12 milltir i'r de-ddwyrain o Ashdod.
”. Felly dyma nhw'n symud yr Arch yno.
9Ond wedi iddi gyrraedd Gath, dyma'r Arglwydd yn cosbi'r dref honno hefyd. Cafodd pawb eu taro gyda chwyddau cas. Roedd hi'n banig llwyr yno!

10Felly dyma nhw'n anfon Arch Duw ymlaen i Ecron
5:10 Ecron Tua 12 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ashdod (eu tref agosaf at diriogaeth Israel)
. Ond pan gyrhaeddodd yno dechreuodd pobl Ecron brotestio, “Maen nhw wedi gyrru Arch Duw Israel aton ni i'n lladd ni a'n teuluoedd!”
11A dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd eto, a dweud wrthyn nhw, “Anfonwch Arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, neu bydd e'n ein lladd ni a'n teuluoedd.” Roedd y dref gyfan mewn panig llwyr, am fod Duw yn eu taro nhw mor drwm. 12Os nad oedd pobl yn marw roedden nhw'n cael eu taro'n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw. Roedd pobl y dref yn galw i'r nefoedd am help.

Copyright information for CYM